Front Page > Green Pembrokeshire

Gwell Cdwraeth I Safleoedd Dan Warchodaeth Ewropeaidd

A photo of an Otter on the riverbank.
Mae’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth yn berthnasol i bawb sy’n defnyddio’r môr yn yr ardal alltraeth, gan wahardd pobl rhag lladd neu darfu ar Rywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd yn fwriadol, gan gynnwys dolffiniaid, crwbanod môr a styrsiynod.
Image by: Cynor Cefn Gwlad Cymru
 

Fe fydd dolffiniaid, crwbanod môr, dyfrgwn a rhywogaethau eraill dan warchodaeth Ewropeaidd** ar eu hennill yr haf hwn, a hynny gan y byddan nhw’n cael eu gwarchod yn fwy llym.

Bydd cyfreithiau cadarnach yn cael eu creu ar gyfer diogelu Rhywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd a’u cynefinoedd. Caiff y cyfreithiau hyn, sy’n gweithredu deddfwriaethau’r UE, eu cyflwyno ar 21 Awst 2007 trwy newid y Rheoliadau Cynefinoedd a thrwy gyflwyno’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth newydd.

Yn awr, fe fydd yn rhaid i bobl ystyried presenoldeb y rhywogaethau, ynghyd â’u a’u safleoedd bridio a’u mannau gorffwyso, o fewn ystod ehangach o amgylchiadau. Bellach, nid oes modd cynnig amddiffyniad trwy honni mai’n ddamweiniol, neu yn sgil gweithgaredd cyfreithlon, y lladdwyd, y daliwyd neu yr aflonyddwyd ar rywogaethau o’r fath, neu y dinistriwyd neu y difrodwyd eu safleoedd bridio neu eu mannau gorffwyso.

Yn awr, rhaid i’r rhai sydd eisiau meddu ar samplau o rywogaethau dan warchodaeth fod efo rheswm dilys dros wneud hynny, ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddangos fod y cyfan yn cyd-fynd efo’r Rheoliadau. Fe fydd rheolau llymach yn ymwneud â’r fasnach mewn rhywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd nad ydyn nhw’n rhywogaethau brodorol i’r DU*** yn ffordd o atal pobl rhag lladd neu gymryd rhywogaethau o’r fath o’r gwyllt.

Yn ôl Barry Gardiner, y Gweinidog dros Fioamrywiaeth:

"Fe fydd y newidiadau yn y Rheoliadau Cynefinoedd yn gwarchod mwy ar Rywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd. Hefyd, fe fyddan nhw’n gwarchod mwy ar eu cynefinoedd. Yn awr, fe fydd yn rhaid i’r rheini sy’n cynnal gweithgareddau a allai effeithio ar y rhywogaethau yma ystyried a oes angen mynd i’r afael â’r gweithgaredd mewn gwirionedd. Os oes, ac os nad oes modd osgoi effeithio ar y rhywogaethau yma, fe ddylen nhw wneud cais am drwydded gan yr awdurdod perthnasol."

Fe fydd y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth newydd yn ymestyn y warchodaeth i 200 o fôr-filltiroedd.

Yn ôl Ben Bradshaw, y Gweinidog dros y Môr a Physgodfeydd: "Mae rhywogaethau morol, adar gwyllt a chynefinoedd yn cael eu gwarchod yn bennaf trwy gyflwyno cyfreithiau llymach a thrwy warchod amgylchedd y môr mewn modd gwell. Er mwyn cynorthwyo gyda hyn, fe fyddwn hefyd yn nodi ac yn diogelu nifer o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig allan yn y môr. Byddwn yn ymgynghori ynghylch y saith safle drafft cyntaf yn ddiweddarach eleni.

A photo of a Humpback Whale.
Fe fydd y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth newydd yn ymestyn y warchodaeth i 200 o fôr-filltiroedd.
 

Mae’r Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth yn berthnasol i bawb sy’n defnyddio’r môr yn yr ardal alltraeth, gan wahardd pobl rhag lladd neu darfu ar Rywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd yn fwriadol, gan gynnwys dolffiniaid, crwbanod môr a styrsiynod.


1) Fe fydd y ddwy gyfres hyn o Reoliadau yn cyflawni ein rhwymedigaethau i drawsosod y Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn llwyr, yn dilyn penderfyniad Llys Cyfiawnder Ewrop. Fe fydd y ddwy gyfres o Reoliadau’n gwahardd pobl rhag dal a lladd rhywogaethau dan warchodaeth, neu ddifrodi eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwyso, yn fwriadol. Mae gan y geiriau ‘yn fwriadol’ ystyr eang yn y cyd-destun hwn, gan fod Llys Cyfiawnder Ewrop wedi nodi y dylai’r term gynnwys ‘derbyn y posibilrwydd’ o ddal neu ladd, hyd yn oed os nad dyna oedd y bwriad (gweler paragraff 71 achos Llys Cyfiawnder Ewrop C-221/04).

Mae pysgota môr yn faes sy’n dod dan gyfrifoldeb y Gymuned Ewropeaidd. O’r herwydd, ni fydd y troseddau yn y Rheoliadau hyn yn berthnasol i bysgota a all arwain at sgil-ddaliad yn cynnwys rhywogaethau dan warchodaeth (sef eu dal neu eu lladd yn anfwriadol), cyn belled â bod y rheini sy’n gyfrifol wedi cymryd pob cam rhesymol i gydymffurfio efo’r ddeddfwriaeth sy’n rheoli gweithgareddau pysgota.

2)** Anifeiliaid Dan Warchodaeth Ewropeaidd (sydd â’u dosbarthiad naturiol yn cynnwys y DU):

  • Ystlumod Pedol (pob rhywogaeth), Rhinolophidae
  • Ystlumod Nodweddiadol (pob rhywogaeth), Vespertilionidae
  • Dyfrgwn, Lutra lutra
  • Dolffiniaid, llamidyddion a morfilod (pob rhywogaeth), Cetacea
  • Pathewod (ond nid pathewod tewion), Muscardinus avellanarius
  • Madfallod Dŵr Cribog, Triturus cristatus
  • Y Glesyn Mawr, Maculinea arion
  • Crwbanod Môr, Caretta caretta, Chelonia mydas, Lepidochelys kempii, Eretmochelys imbricate, Dermocelys coriacea
  • Llyffantod y Twyni, Bufo calamita
  • Madfallod y Tywod, Lacerta agilis
  • Nadroedd Llyfnion, Coronella austiaca
  • Styrsiynod, Acipenser sturio
  • Cathod Gwylltion, Felis silvestris

** Planhigion Dan Warchodaeth Ewropeaidd (sydd â’u dosbarthiad naturiol yn cynnwys y DU):

  • Dyfrforonen Ymlusgol
  • Crwynllys Cynnar
  • Tegeirian y Fign Galchog
  • Llyriad-y-dŵr Arnofiol
  • Rhedyn Cilarne
  • Esgid Fair
  • Tafol y Traeth
  • Naiad Ystwyth
  • Tormaen Melyn y Gors

***Yn ein deddfwriaethau, caiff Rhywogaethau Dan Warchodaeth Ewropeaidd eu diffinio fel rhywogaethau a restrir yn Atodiad IV y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, sydd â’u dosbarthiad naturiol yn cynnwys unrhyw ardal o fewn y DU. Sylwer nad yw troseddau’n ymwneud â meddiannu, rheoli, cludo, gwerthu a chyfnewid o fewn y Rheoliadau newydd yn cael eu cyfyngu i rywogaethau sydd â’u dosbarthiad naturiol yn cynnwys y DU. Gan hynny, defnyddir y term "rhywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd" yn y paragraff uchod wrth gyfeirio at y fasnach mewn rhywogaethau anfrodorol.

3) Newidiadau i’r Rheoliadau Cynefinoedd

I gael mwy o wybodaeth am y newidiadau i’r Rheoliadau Cynefinoedd, edrychwch ar: http://www.defra.gov.uk/wildlife-countryside/ewd/index.htm

Ar gyfer trwyddedau yn Lloegr, a roddir gan Natural England, gellir cael mwy o wybodaeth ar here

I gael mwy o gyngor a gwybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:

Wildlife Management and Licensing Service, Natural England, Burghill Road, Westbury-on-Trym, Bristol. BS10 6NJ- Ffôn: 0845 6014523 (cyfradd galwadau lleol)

Ar gyfer trwyddedau yng Nghymru:

Y Tîm Diogelu Rhywogaethau, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Maes y Ffynnon, Penrhosgarnedd, Bangor, Gwynedd LL57 2DW- Ffôn:0845 1306229 / http://www.ccw.gov.uk

Neu:

Cangen Polisi Bioamrywiaeth a Chadwraeth Natur, Is-adran yr Amgylchedd – Cadwraeth a Rheoli, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Uned 9 Parc Gwyddoniaeth Cefnllan, Aberystwyth SY23 3AH - Ffôn: 01970 610216

4) Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth

I gael mwy o wybodaeth am y Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth, edrychwch ar: http://www.defra.gov.uk/marine/biodiversity/index.htm

Asiantaeth y Môr a Physgodfeydd fydd yn gyfrifol am roi trwyddedau bywyd gwyllt dan y Rheoliadau hyn. Fe fydd yn rhaid cynnal profion llym cyn rhoi trwyddedau, er mwyn sicrhau y bydd y rhywogaethau y gall hyn oll yn effeithio arnynt yn cael eu gwarchod yn ddigonol. http://www.mfa.gov.uk

5)Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Morol Alltraeth

Mae disgwyl i’r Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC), sy’n gyfrifol am nodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA) y tu hwnt i 12 môr-filltir, ymgynghori ynghylch y saith ACA morol alltraeth drafft cyntaf yn ddiweddarach eleni.

Dyma’r saith ACA drafft: North Norfolk Sandbanks a Saturn Reef, Haig Fras, Darwin Mounds, Wyville Thomson Ridge, Braemar Pockmarks, Scanner Pockmark, a Stanton Banks.

Mae’r ardaloedd hyn yn cynnwys cynefinoedd prin a/neu gynefinoedd dan fygythiad o fewn amgylchedd y môr, sef rhai sydd angen eu diogelu rhag ambell weithgaredd a all effeithio arnynt.

Bydd modd cael gwybodaeth am y broses ymgynghori ar: www.jncc.gov.uk/marineconsult


Discussion Forum Icon
Shout it out!
If you're passionate about keeping Pembrokeshire green, then make your voice heard and discuss this topic (or start your own!) in the Green Pembrokeshire forum.


Print Article   Email Article

Article Tools

Headlines

Back up

Front Page > Green Pembrokeshire > Gwell Cdwraeth I Safleoedd Dan Warchodaeth Ewropeaidd

Business Awards

awards logo

Nominated:
Business in the Community
My Pembrokeshire Ltd.

Finalist:
Business Person of the Year
Todd Harrison, Managing Director
My Pembrokeshire Ltd.

Back To Top


Your Web browser doesn't support the Cascading Style Sheets standard that is used to define the layout of this site. Feel free to continue using your current browser as none of the content is hidden; only the design.

If you wish, you may upgrade or download any of the browsers below for free: